Math | ymbelydredd, Ton, digwyddiad golau-amser |
---|---|
Deunydd | gofod-amser |
Dyddiad darganfod | 14 Medi 2015 |
Rhan o | gofod-amser |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Yn ffiseg, tonnau disgyrchol yw crychiadau yng nghrymedd gofod-amser sy'n lledaenu fel tonnau, yn teithio allan o'r ffynhonnell. Cawsant eu darogan yn 1916[1][2] gan Albert Einstein ar sail ei ddamcaniaeth perthnasedd cyffredinol,[3][4] mewn theori mae tonnau disgyrchol yn cludo egni fel "pelydriad disgyrchol". Ar 11 Chwefror 2016 cyhoeddodd y grŵp LIGO, Virgo interferometer a GEO600 eu bod wedi darganfod prawf o fodolaeth tonnau disgyrchol ac enwyd y signal yn "GW150914".[5]
Mae'n bosib y gall ffynonellau o donnau disgyrchol gynnwys systemau sêr dwbl wedi eu gwneud o gorachod gwynion, sêr niwtron, neu dyllau du. Mae bodolaeth tonnau disgyrchol yn ganlyniad posibl i anghyfnewidioldeb Lorentz ym mherthnasedd cyffredinol am ei fod yn cyflwyno'r syniad o gyfyngiad ar gyflymder lledu o gydadweithiau ffisegol. All tonnau disgyrchol ddim bodoli mewn damcaniaeth Newtonaidd o ddisgyrchiant, lle mae cydadweithiau ffisegol yn lledu ar gyflymder anfeidrol.
Cyn darganfod tonnau disgyrchol yn uniongyrchol roedd yna dystiolaeth anuniongyrchol o'u bodolaeth.[6] Er enghraifft, gwobrwywyd Gwobr Ffiseg Nobel 1993 am fesuriadau o system ddeuaidd Hulse–Taylor oedd yn awgrymu fod tonnau disgyrchol yn fwy na chysyniad damcaniaethol. Ar hyn o bryd mae sawl datgelydd tonnau disgyrchol yn cael eu hadeiladu neu yn gweithredu, fel yr Advanced LIGO a gychwynnodd ei arsylwadau ym Medi 2015.[7]